SL(6)704 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026

Cefndir a Diben

Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau (“ETS”) y DU gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 (“Gorchymyn 2020”) fel cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y DU gyfan, a fydd yn ffordd gost-effeithiol o annog y sectorau pŵer, diwydiant ac awyrennau i leihau eu hallyriadau. Fe’i lluniwyd ar y cyd gan y pedair llywodraeth yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithredu’r ETS ar y cyd fel Awdurdod ETS y DU (“yr Awdurdod”), sy’n cymryd lle cyfranogiad y DU yn ETS yr UE. Mae’n cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau a nod sero net y DU, yn ogystal â’r llwybr i leihau allyriadau yng Nghymru.

Mae’r ETS yn cymell ymdrechion i ddatgarboneiddio drwy ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr brynu lwfansau, y mae’n rhaid iddynt eu monitro, adrodd arnynt a’u hildio. Mae’r ETS yn rhedeg am 10 mlynedd ac wedi’i rannu ar draws dau gyfnod dyrannu, sef 2021-2025, 2027-2030, ac un flwyddyn ar ei phen ei hun ar gyfer y cynllun (blwyddyn 2026 y cynllun). Yn ystod y cyfnodau hynny, mae rhai gweithredwyr yn gymwys i gael dyraniad lwfansau am ddim ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Yn 2023, ymgynghorodd yr Awdurdod ynghylch “Adolygiad o Ddyraniadau Am Ddim”. Dilynwyd hyn gan ymgynghoriad arall yn 2024 ynghylch “Dadleoli Carbon”. Cafodd y penderfyniadau polisi terfynol yn Ymateb yr Awdurdod i’r ymgyngoriadau hyn eu datblygu’n unol â chyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd Mecanwaith Addasu Ffiniau Carbon y DU (CBAM y DU) yn cael ei gyflwyno yn 2027. Maent hefyd yn adlewyrchu’r cytundeb rhwng y DU a’r UE i weithio tuag at gysylltu ETS y DU ac ETS yr UE. Mae’r diwygiadau arfaethedig sydd i’w gwneud gan y Gorchymyn hwn yn ymgorffori’r rhain yn neddfwriaeth yr ETS ar sail pedair gwlad.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2019/331 (y “Rheoliad Dyraniadau am Ddim”) i wneud tri phrif newid i’r cyfrifiad o ddyraniadau am ddim ar gyfer y cyfnod dyrannu 2027-2030. Er mwyn gweithredu’r prif newidiadau hyn ar draws ETS y DU, caiff Gorchymyn 2020 a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2019/1842 eu diwygio hefyd.

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

 

Materion technegol: craffu

Nodir y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae erthygl 19(8) o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Erthygl 16 o’r Rheoliad Dyraniadau am Ddim (2019/331). Nod y Gorchymyn yw mewnosod testun ym mrawddeg gyntaf paragraff 5, ar ôl yr ymadrodd “for the relevant period”. Fodd bynnag, nid yw’r ymadrodd hwn yn ymddangos ym mrawddeg gyntaf paragraff 5. Yr ymadroddion “relevant baseline periods” a “relevant allocation period” sy’n ymddangos. Mae angen eglurhad pellach ynghylch ym mha le y dylid mewnosod y testun y cyfeirir ato yn erthygl 19(8)(a).

2.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Nodwn fod paragraff 2.1 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:

“Gan y bydd y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i graffu seneddol gan y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei wneud neu ei osod yn ddwyieithog.”

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwynt adrodd cyntaf.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

14 Ionawr 2026